Neges – Pobl Ifanc a Digartrefedd yng Nghymru: Canllawiau i’r Gwasanaeth Ieuenctid

Bwriad y papur hwn yw rhoi arolwg o faintiuoli digartrefedd ieuenctid yng Nghymru; cynnig golwg ar brofiad pobl ifanc ddigartref yng Nghymru ac yn bwysig iawn, rhoi rhyw syniad am sut y gall y gwasanaeth ieuenctid chwarae rhan mewn datblygu a darparu gwasanaethau.

Cynnwys:
• Diffinio digartrefedd ieuenctid
• Maint a natur digartrefedd ieuenctid yng Nghymru
• Dewisiadau tai i bobl ifanc
• Rôl y gwasanaeth ieuenctid
• Sefydliadau tai yng Nghymru

Neges – Canlyniadau Arolwg Holiadur Gweithwyr Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn cynnwys canlyniadau rhan o arolwg holiadur a gynhaliwyd er mwyn gweld
a yw’r gwasanaeth ieuenctid cynaledig yng Nghymru, yn gallu bodloni gofynion polisi’r
llywodraeth ac anghenion pobl ifanc, tra’n cynnal ei hunaniaeth sefydliadol benodol. Casglwyd
a dadansoddwyd gwybodaeth a gyflwynwyd yn yr holiadur rhwng 2000 a 2002, cyfnod pan
welwyd nifer o effeithiau sylweddol yn sgil datganoli llywodraeth a chreu Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (1999). Ers yr adeg hwn, mae’r gwasanaeth ieuenctid wedi cael ei
archwilio’n llawer mwy trylwyr mewn agenda wleidyddol sy’n rhoi cryn sylw i wella cyfraniad
pob person ifanc tuag at les cymdeithasol ac economaidd Cymru. Ategwyd y sefyllfa hon gan
gasgliadau ac argymhellion Ymestyn Hawliau (CCC 2000) a ddaeth yn brif ddogfen y
llywodraeth ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau i bobl ifanc.