Canllawiau ar Fwyd a Diod Iach mewn Lleoliadau Gwaith Ieuenctid

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi cyngor ymarferol i helpu gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phobl ifanc i ddarparu bwyd a diod iachach mewn lleoliadau lle mae pobl ifanc yn cwrdd. Mae’n cefnogi’r gwaith a wneir trwy Newid am Oes, Blas am Oes, a Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy’n ceisio gwella deiet cyffredinol pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd ˆa nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn esiampl o arferion da yn yr ymdrech i greu amgylchedd lle mae’n hawdd i bobl fwyta’n iach.

Hanes Mudiad y Clybiau Bechgyn yng Nghymru -Llinell Amser 28-08

Mae tymor i bob llywodraeth yn ei thro, cynigir polisïau newydd, mae Gweinidogion yn sôn am eu hawydd i ddatrys y ‘problemau’ sy’n wynebu pobl ifanc o ddegawd i ddegawd. Yn y cyfamser mae Clybiau Pobl Ifanc Cymru’n parhau i gynnig ei raglen yng Nghymru heb ots am y blaid sy’n ennill yr etholiad na’r gwahanol fathau o argyfwng sy’n taro’r wlad. Ar wahân i newid ei enw o bryd i’w gilydd mae CPI Cymru’n dal i sefyll yn falch fel un o’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol mwyaf yn y Dywysogaeth.

Mae’r Mudiad yn ddyledus am ei lansio i’r perchennog pyllau glo a’r dyngarwr, David Davies, yr Arglwydd Davies o Landinam wedi hynny, a oedd yn Gadeirydd ar gwmni glo mawreddog Ocean. Ffurfiwyd clybiau i ddifyrru’r bechgyn ifanc a weithiai yn y glofeydd yn ystod eu horiau hamdden. Bu’r rhaglenni blynyddol yn fodd i gynnig profiadau a chyfleoedd newydd gan gadw’r un pryd at y gweithgareddau traddodiadol a oedd yn boblogaidd ymhlith yr aelodau ifanc, ac mae hynny’n wir hyd y dydd hwn.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion 2014

Dwyieithog. Prif amcan y ddogfen yw nodi’r egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid a bwrw golwg gyffredinol ar ei ddibenion ac ar y gwaith o’i ddarparu. Mae cynnwys y ddogfen yn ymwneud yn benodol â gwaith ieuenctid yng Nghymru, ond mae’n debyg y bydd yn cyd-fynd ag egwyddorion, dibenion ac ymarfer gwaith ieuenctid mewn rhannau eraill o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Cydamcanu; Cydymdrechu: Canllawiau ar Integreiddio Partneriaethau a Chynlluniau

Canllawiau ar Integreiddio Partneriaethau a Chynlluniau.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid defnyddio cynllun integredig unigol i gyflawni’r dyletswyddau statudol o ran datblygu cynlluniau a strategaethau sydd wedi’u gosod yn y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Rhan 2: Adrannau 37-46) – Strategaethau cymunedol;
  • Deddf Plant 2004 (Rhan 3: Adran 26) – Cynllun Plant a Phobl Ifanc (sy’n cynnwys cynlluniau sy’n ofynnol o dan adran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rhan 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010);
  • Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Rhan 3: Adran 40) – Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles;
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Rhan 1: Adran 6) – Strategaethau i ostwng troseddu ac anhrefn, strategaethau i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill, a strategaethau i ostwng aildroseddu.
  • Mesur Plant a Theuloedd (Cymru) 2010 adrannau 11 a 12 – y dyletswyddau mewn perthynas ag awdurdodau lleol i asesu ar gyfer cyfleoedd chwarae digonol ac i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant ym mhenderfyniadau’r awdurdod a allai effeithio arnynt, ac i gyhoeddi a diweddaru gwybodaeth am ei drefniadau.