Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r trefniadau llywodraethu a chyflawni ar gyfer gwireddu’r ymrwymiadau a nodwyd yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019.
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r trefniadau llywodraethu a chyflawni ar gyfer gwireddu’r ymrwymiadau a nodwyd yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019.
Mae’r strategaeth hon yn cynnig gweledigaeth gytûn ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae’r egwyddorion lefel uchel sydd wedi’u pennu yn y ddogfen hon wedi’u datblygu ar y cyd â phobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid. Mae’r strategaeth yn cynnig cyfres o gamau gweithredu a fydd yn ein symud ni yn nes at ein … Continued
Cynhyrchwyd ‘Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ ar sail gydweithredol gan gynrychiolwyr y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol ac awdurdod lleol yng Nghymru, ac ar y cyd â Chyngor y Gweithlu Addysg. Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau a swyddogion etholedig awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n … Continued
Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.
Mae'r Llawlyfr hwn yn cyflwyno, yn egluro ac yn ehangu ar wybodaeth gyfredol am fframwaith Llwybrau Dysgu 14-19 a rolau posibl gwaith ieuenctid o fewn y fframwaith.
Mae'r Llawlyfr yn ceisio annog trafodaeth ymhlith Gweithwyr Gwaith Ieuenctid am y potensial i wneud ymyriadau sy'n gysylltiedig â Llwybrau Dysgu 14-19, datblygu 'cynnig' Gwaith Ieuenctid i bobl ifanc ac annog partneriaid addysgol eraill i gydnabod a gwerthfawrogi Gwaith Ieuenctid.
Mae'r Llawlyfr yn cyflwyno diffiniadau a chefndir i Lwybrau Dysgu, yn cyfeirio at gyfleoedd achredu, dulliau cyflwyno, cymariaethau rôl a gwybodaeth gyswllt sylfaenol. Mae'n cyfeirio at Arferion Gwaith Ieuenctid sydd eisoes wedi cyfrannu at Lwybrau Dysgu pobl ifanc.
[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]