FfYDI Rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith yng Nghymru Canllawiau drafft

Mae’r ddogfen hon yn cefnogi’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid. Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddyd cychwynnol i awdurdodau lleol
a phartneriaid allweddol ar y Warant Ieuenctid a’r prif brosesau i’w sefydlu i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymwneud ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Caiff y ddogfen ei llywio gan weithgarwch y treialon a bydd ei ffurf derfynol yn ymddangos yn hydref 2014 cyn i’r Warant Ieuenctid gael ei chyflwyno ledled Cymru. 

Yng Nghynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid rydym yn ymrwymo i gyflwyno gwarant y bydd lle mewn addysg neu hyfforddiant i bobl ifanc sy’n gadael addysg orfodol am y tro cyntaf. Mae ein Gwarant Ieuenctid yn cynnwys “cynnig, derbyn a chychwyn lle addas mewn addysg neu hyfforddiant i berson ifanc sy’n symud am y tro cyntaf o addysg orfodol yn 16 oed”.

Mae’r Warant Ieuenctid yn cael ei threialu yn rhanbarthau Gogledd a Gorllewin Cymru rhwng Tachwedd 2013 a Hydref 2014. Bwriedir rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith ledled Cymru rhwng Tachwedd 2014 a Hydref 2015. Felly bydd y grŵp cyntaf o bobl ifanc yn cychwyn eu cynigion o dan y Warant ym Medi a Hydref 2015. 

FfYDI Gwerthusiad ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: Adroddiad terfynol

Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae chwe elfen i’r Fframwaith, y profwyd eu bod yn effeithiol wrth gynyddu ymgysylltiad a datblygiad ieuenctid o’u gweithredu gyda’i gilydd yn rhan o strategaeth. Dyma’r elfennau: adnabod yn gynnar, gwell broceriaeth a chydgysylltu cymorth; prosesau olrhain a throsglwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc; sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc; pwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ymhlith pobl ifanc; a mwy o atebolrwydd. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am arwain y broses o weithredu’r Fframwaith, gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, darparwyr hyfforddiant i bobl ifanc 16 oed a hŷn a phartneriaid eraill. 

Nod y gwerthusiad oedd asesu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r Fframwaith ac effeithiolrwydd prosesau gweithredu, gan ystyried a yw’r arweiniad anstatudol yn ddigonol i gyflawni uchelgeisiau a thargedau Llywodraeth Cymru ac amlygu gwersi i’w dysgu er mwyn gwella’r arweiniad a’r broses weithredu. 

Ymgynghoriad ar weledigaeth newydd ar gyfer Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gael barn pobl ynghylch cynigion newydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/06/2013
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 16/09/2013

Addawodd Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Lywodraethu y byddai'n diweddaru’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid. Defnyddir canlyniadau’r ymgynghoriad hwn fel sail ar gyfer Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid i Gymru, a gyhoeddir yn yr hydref 2013.

Cyfraniad gwaith ieuenctid i’r Rhaglen ar Gyfer Llywodraethu yng Nghymru

Nod hyn o bapur yw dangos ble a sut mae gwaith ieuenctid yn gallu helpu i gyflawni polisïau ehangach Llywodraeth Cymru trwy wella byd pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Nid nodi meysydd newydd na phennu ehangder gwaith ieuenctid yw’r diben, ond tynnu sylw at y rôl bresennol – sy’n ffordd benodol o weithio gyda’r ifainc – ynglŷn â helpu i gyflawni a chryfhau polisïau Llywodraeth Cymru

Dyma agweddau Rhaglen Llywodraeth Cymru:

  • Twf a swyddi cynaladwy
  • Gwasanaethau cyhoeddus
  • Gofal iechyd yn yr 21ain ganrif
  • Addysg
  • Rhaglen ‘Cefnogi Pobl’
  • Cartrefi Cymru
  • Cymunedau mwy diogel
  • Cydraddoldeb
  • Trechu tlodi
  • Cymunedau gwledig
  • Yr amgylchedd a chynaladwyedd
  • Diwylliant a threftadaeth Cymru

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014-2018

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r cyfeiriad ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac mae’n adeiladu ar ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 18 Mehefin 2013 ac 16 Medi 2013. Mae’r strategaeth yn cydnabod gwerth a rôl gwaith ieuenctid mynediad agored; mae’n hyrwyddo cysylltiad cryfach rhwng gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol; mae’n nodi’r angen am gydweithio agosach rhwng mudiadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol; ac mae’n nodi’r angen i gryfhau’n sylweddol y sylfaen dystiolaeth ar effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol, yn ogystal ac awdurdodau lleol, gydweithio er mwyn gweithredu’r camau a nodwyd a datblygu gwaith ieuenctid.