Neges – Ymgynghori gyda Phobl Ifanc Sealand Manor, Clwyd

Deilliodd y syniad o gynnal y prosiect hwn yn sgil trafodaethau a gafwyd gydag Asiantaeth Gymunedol Alun a Glannau Dyfrdwy ynglyn â natur swyddogaeth y Cyngor/Fforwm yn gymruso pobl ifanc ac yn datblygu modelau ymarfer i alluogi pobl ifanc i gael llais yn eu cymunedau.

Amcanion y prosiect oedd galluogi pobl ifanc a’r gymuned leol i ddod i benderfyniad ynglyn â defnydd canolfan gymunedol Sealand Manor ar gyfer gweithgareddau pobl ifanc a sut mae modd i bobl ifanc gyfrannu at hynny.  Roedd y prosiect hefyd yn ymwneud ag ymgyrchoedd ehangach yn delio â buddiannau a phryderon pobl ifanc yr ardal.

Neges – Canlyniadau Arolwg Holiadur Gweithwyr Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn cynnwys canlyniadau rhan o arolwg holiadur a gynhaliwyd er mwyn gweld
a yw’r gwasanaeth ieuenctid cynaledig yng Nghymru, yn gallu bodloni gofynion polisi’r
llywodraeth ac anghenion pobl ifanc, tra’n cynnal ei hunaniaeth sefydliadol benodol. Casglwyd
a dadansoddwyd gwybodaeth a gyflwynwyd yn yr holiadur rhwng 2000 a 2002, cyfnod pan
welwyd nifer o effeithiau sylweddol yn sgil datganoli llywodraeth a chreu Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (1999). Ers yr adeg hwn, mae’r gwasanaeth ieuenctid wedi cael ei
archwilio’n llawer mwy trylwyr mewn agenda wleidyddol sy’n rhoi cryn sylw i wella cyfraniad
pob person ifanc tuag at les cymdeithasol ac economaidd Cymru. Ategwyd y sefyllfa hon gan
gasgliadau ac argymhellion Ymestyn Hawliau (CCC 2000) a ddaeth yn brif ddogfen y
llywodraeth ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau i bobl ifanc.

Neges – Gwaith Ieuenctid ac Atal Troseddu

Bydd y papur hwn yn dadlau fod gwasanaeth ieuenctid ag adnoddau digonol, a all fabwysiadu amrediad o ddulliau gweithredu, o fudd cynhenid i gymdeithas. Gall gwaith ieuenctid gynnig profiadau cadarnhaol sy’n wynebu anghenion a dyheadau pobl ifainc ac yn eu galluogi i ddatblygu fel dinasyddion cyfrifol ac i gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd eu cymunedau.

Er nad yw atal troseddu erioed wedi bod yn brif gymhelliad i waith ieuenctid, mae ganddo gyfraniad pwysig i’w wneud yn y broses hon. Bydd y papur yma’n cyfeirio at adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a seiliwyd ar ymchwil a wnaed gan Coopers and Lybrand, sy’n arddangos y berthynas rhwng gwaith ieuenctid ac atal troseddu gan ieuenctid. (Coopers and Lybrand: ‘Preventative Strategy for Young People in Trouble’ 1994)

Neges – Pobl Ifanc, Gwaith Ieuenctid a Chynghorau Tref a Chymuned

Mae Cyngor Ieuenctid Cymru’n awyddus i gefnogi’r datblygiadau hyn, ac yn ystod hydref 1998 galwodd ddwy seminar a ystyriai rôl Cynghorau Tref a Chymuned mewn datblygu gwasanaethau i bobl ifanc.  Mae’r ddogfen friffio hon yn lledaenu gwybodaeth am ddatblygiadau i alluogi Cynghorau Tref a Chymuned eraill i sefydlu eu darpariaeth eu hunain.