Ni yw prif ddarparwr adnoddau gwybodaeth ym maes gwaith ieuenctid yng Nghymru
Mae gwaithieuenctidcymru yn wefan dielw a gefnogir gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Nod y wefan yw cynnig ystod o wybodaeth a wnaiff gynorthwyo ymarferwyr, myfyrwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru i ddatblygu theori ac arfer.
Mae’r wefan yn canolbwyntio’n bennaf ar arddull benodol o weithio gyda phobl ifanc, a gyflwynir o fewn fframwaith y Gwasanaeth Ieuenctid, sy’n annog pobl ifanc 11-25 oed i gyfranogi’n wirfoddol mewn ystod eang o weithgareddau positif.
Mae canlyniadau gweithgareddau o’r fath yn cynnwys datblygu ymdeimlad o hunaniaeth bersonol ymhlith pobl ifanc, eu lles a’u lle o fewn eu cymdogaeth, eu cymuned, a’r gymdeithas ehangach.
Os hoffech ymuno â gwaithieuenctidcymru a chael diweddariadau rheolaidd trwy gyfrwng e-bost, llenwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.
Ein Categoriau
Adnoddau Ychwanegwyd yn ddiweddar
A oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddi i fod yn weithiwr ieuenctid?
Cysylltwch â Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales ynghylch Hyfforddiant i Weithwyr Cymorth Ieuenctid neu Brifysgol y Drindod Dewi Sant ynghylch rhaglenni i Weithwyr Ieuenctid Proffesiynol.